Cylch Gorchwyl ar gyfer y PAPC Cenedlaethol
Cylch Gorchwyl
  1. Corff anghorfforedig yw Pwyllgor Awdurdodau'r Priffyrdd a'r Cyfleustodau Cenedlaethol, sy'n cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gludiant ynglyn â pholisi deddfwriaeth gwaith stryd, monitro sut y rhoddir y ddeddfwriaeth ar waith a chynrychioli cyd-fuddiannau Awdurdodau'r Priffyrdd a'r Cyfleustodau mewn materion sy'n ymwneud â gwaith stryd. Cylch Gorchwyl PAPC yw:

  2. Cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gludiant ynglyn â pholisi deddfwriaeth Gwaith Stryd a ddynodwyd gan PAPC ac sy'n deillio o ymgynghori a chynigion gan gyrff eraill.

  3. Monitro'r deddfwriaeth gyfredol i sicrhau ei bod yn effeithiol a gwneud argymhellion ar gyfer newid.

  4. Cynhyrchu adroddiad blynyddol i'r Ysgrifennydd Gwladol ynglyn â gweithredu'r Ddeddf.

  5. Rhoi canllawiau ar y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd, yr is-deddfwriaeth a'r codau ymarfer cysylltiedig, er enghraifft trwy gyhoeddi Cyngor PAPC.

  6. Bod yn fforwm ar gyfer materion sydd o ddiddordeb i bawb.

  7. Dynodi meysydd lle gellir gweithredu ar y cyd.

  8. Adolygu canllawiau ar ddulliau gweithredu ar gyfer cymodi a chyflafareddu o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd a sefydlu panel o gymodwyr annibynnol cenedlaethol.

  9. Cyfarwyddo gwaith Grwp Cynrychiolwyr y PAPC Rhanbarthol cenedlaethol a'r PAPC Rhanbarthol, a rhoi gorchwylion a chyfyngiadau amser penodol iddynt ar gyfer tasgau.

  10. Penodi Gweithgorau a chyfarwyddo eu gwaith: adolygu eu gorchwylion yn rheolaidd a phennu targedau a chyfyngiadau amser pendant.
Cyfansoddiad

Cadeiryddiaeth

  1. Penodir y ddau gyd-Gadeirydd gan y ddwy garfan, a bydd Cadeiryddiaeth carfan y NJUG yn newid bob dwy flynedd, a bydd carfanAwdurdod y Priffyrdd yn agored i adolygiad cyfnodol.

  2. Bydd y Cadeirydd (a'r Ysgrifenyddiaeth) yn newid yn eu tro ar gyfer pob cyfarfod, a'r lleoliad hefyd.

Aelodaeth

  1. Bydd yr Aelodaeth yn cynnwys chwe aelod o'r Cyfleustodau yn ogystal ag aelod o Ysgrifenyddiaeth y NJUG. Bydd yr aelodaeth o Awdurdodau'r Priffyrdd yn cynnwys dau gynrychiolydd o bob un o Gymdeithasau'r Llywodraeth Leol yn cynnwys COSLA ac un aelod o bob un o'r Ysgrifenyddiaethau hynny (yn agored i adolygiad gan garfan Awdurdod Priffyrdd o'r PAPC)

  2. Ni fydd mwy na dau gynrychiolydd o'r Adran Gludiant "Yn bresennol" mewn cyfarfodydd. Byddant yn cynrychioli buddiannau'r awdurdodau cludiant, y Swyddfa Gymreig a Swyddfa'r Alban fel arfer ond caiff y sefydliadau hynny fod yn bresennol mewn cyfarfodydd os yw'r busnes yn cyfiawnhau hynny a gyda chaniatâd PAPC "Trwy Wahoddiad".

  3. Bydd Asiantaeth y Priffyrdd yn mynychu'r cyfarfodydd.

  4. Caiff Aelodau'r Pwyllgor anfon dirprwyon i gyfarfodydd a gellir cyfethol cynrychiolwyr ychwanegol neu eu gwahodd i gyfarfodydd gyda chytundeb y ddwy ochr.
Amlder y Cyfarfodydd
  1. Ddwywaith y flwyddyn fel bo angen.
Cliciwch yma i brintio'r ddogfen gyfan-Fformat MS Word
Cliciwch yma i brintio'r ddogfen gyfan-Fformat Adobe Acrobat