Cylch Gorchwyl a Chyfansoddiad
ar gyfer PAPC Cymru
Cylch Gwaith

Rôl y Pwyllgor [PAPC Cymru] yw creu fforwm ar gyfer trafod a meithrin cysylltiadau proffesiynol a fydd yn arwain at gydweithredu rhwng y Cyfleustodau ac Awdurdodau'r Priffyrdd a phob parti arall sy'n ymwneud â ffyrdd newydd a gwaith stryd (Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 [DFfNGS]) yng Nghymru.

Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn mae PAPC Cymru'n ymroddedig i'r canlynol: -

1. Gweithredu  fel  ffocws  rhanbarthol  ar  gyfer  Pwyllgor Cenedlaethol Awdurdodau'r Priffyrdd a'r Cyfleustodau [PCAPC]  a chyflwyno adroddiadau i'r PCAPC trwy gyfrwng cyfarfod cenedlaethol cynrychiolwyr PAPC. Cefnogi ceisiadau a mentrau PCAPC.

2. Derbyn yr holl Ddeddfwriaeth, Codau Ymarfer a Manylebion cyfredol perthnasol.
3. Hyrwyddo gweithredu'r canllawiau a'r dulliau gweithredu perthnasol yn eu cyrff hwythau.

4. Nodi pynciau lle bydd lle i gynlluniau a dadansoddiadau lleol a dod i gytundeb ar draws Cymru.
5. Cyfrannu at lif agored o wybodaeth rhwng y cyrff.

6. Archwilio pob posibilrwydd a dewis er mwyn lleihau:-
      •   Effeithiau gwaith stryd ar y priffyrdd, defnyddwyr y priffyrdd, yr   amgylchedd a'r gymuned yn gyffredinol
      •   Difrod a lleihau'r peryglon i iechyd a diogelwch yn gyffredinol
7. Monitro perfformiad y Cyfleustodau ac Awdurdodau'r Priffyrdd dan DFfNGS.

8. Hyrwyddo cysylltiadau lleol a chefnogi PAPCau lleol trwy:-
      • Roi canllawiau
      • Gweithredu fel fforwm ymgynghorol os bydd anghydfod lleol lle mae arferion da yn y fantol.
      • Rhannu gwybodaeth yngly^n â materion Cenedlaethol a Rhanbarthol.
      • Derbyn gwybodaeth/arferion da gan PAPCau lleol
      • Helpu i weithredu dulliau cymodi a chyflafareddu
9. Adolygu'r amodau gorchwyl a'r Cyfansoddiad, os bydd angen, yn y cyfarfod cyntaf yn y flwyddyn galendr.
Cyfansoddiad

1. Bydd y Pwyllgor [PAPC Cymru] yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyfleustodau ac Awdurdodau'r Priffyrdd sy'n gweithredu yng Nghymru.
2. Caiff PAPC Cymru wahodd partïon eraill perthnasol i gyfarfodydd.
3. Bydd rhaid i unrhyw un sydd am fynd i gyfarfod fel sylwedydd gael caniatâd gan yr Ysgrifennydd cyn y cyfarfod ac ni chaiff gymryd rhan weithredol yn y trafodion oni chaiff wahoddiad i wneud hynny.
4. Bydd PAPC Cymru yn penodi Swyddogion y Pwyllgor, gan gynnwys Cadeirydd ac Ysgrifennydd. Caiff y Swyddogion eu penodi am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd CSTCGGS a GCC Cymru'n enwebu'r Cadeirydd ac Ysgrifennydd a bydd y ddwy swydd yma'n cael eu dal bob yn ail flwyddyn gan y ddau gorff hwnnw. Bydd Ysgrifennydd PAPC Cymru'n cymryd lle hen Gadeirydd PAPC Cymru'n flynyddol ac fe gaiff Ysgrifennydd newydd PAPC Cymru ei benodi gan y corff perthnasol.
5. Caiff ysgrifennydd cofnodion fynychu'r cyfarfodydd fel bo angen yn ôl Ysgrifennydd PAPC Cymru.
6. Bydd PAPC Cymru'n cwrdd bob chwarter. Cynhelir cyfarfodydd ychwanegol ar gais naill ai CSTCGGS neu GCC Cymru.
7. Bydd rhaid i'r materion dan sylw fod ar yr agenda, a dylai honno gael ei chyhoeddi o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhennir cofnodion y cyfarfod ymhlith aelodau PAPC Cymru cyn pen 20 diwrnod gwaith wedi'r cyfarfod.
8.

Daw'r materion i'w trafod o blith yr isod:-

• Grwp Cyfun Cenedlaethol y Cyfleustodau [GCCC]
• Grwp Gwaith Stryd Cenedlaethol y Priffyrdd [GGSCP] trwy CSTCGGS
• Cymdeithas Llywodraeth Leol [CLlL]
• Pwyllgor Cenedlaethol Awdurdodau'r Priffyrdd a'r Cyfleustodau [PCAPC]
• Awdurdodau'r Priffyrdd yng Nghymru [CSTCGGS - Cymdeithas Swyddogion Technegol Cymru Grwp Gwaith Stryd]
• Cyfleustodau yng Nghymru [GCC Cymru]
• Aelodau PAPC Cymru os oes gan y mater oblygiadau i Gymru gyfan
• Grwpiau lleol sydd wedi methu ag unioni materion yn lleol ynghyd ag    unrhyw gyrff perthnasol.
• Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9. Caiff PAPC Cymru enwebu is-grwpiau i archwilio a chyflwyno adroddiadau am bynciau sydd o bryder ac o ddiddordeb i bawb fel ei gilydd. Daw cadeirydd y gweithgorau hyn o blith aelodau PAPC Cymru a CSTCGGS a bydd gan GCC Cymru gyfle i benodi nifer cyfartal o aelodau.
10. Bydd Cadeirydd ac Ysgrifennydd PAPC Cymru'n cymeradwyo Cytundebau, Canllawiau a Ffurflenni Safonol PAPC Cymru. Bydd y Cadeirydd yn cadw'r Cytundebau llofnodedig. Anfonir copi o bob dogfen i'r PAPC Cenedlaethol. Caiff Cytundebau, Canllawiau a Ffurflenni Safonol PAPC Cymru eu hadolygu'n flynyddol.
11. Caiff holl ohebiaeth PAPC Cymru ei hawdurdodi gan Gadeirydd ac Ysgrifennydd PAPC Cymru.
12. Os na fydd trafodaethau lleol wedi unioni unrhyw faterion, defnyddir y Dulliau Cymodi a Chyflafareddu. Cadeirydd ac Ysgrifennydd PAPC Cymru fydd y Cymodwyr. Os na fydd hyn yn bosib bydd modd penodi Cymodwyr eraill o CSTCGGS a GCC Cymru yn eu lle fel bo angen. Os bydd y cymodi'n methu yna bydd Dulliau Cyflafareddu PCAPC yn gymwys.
13. Caiff gwefan PAPC Cymru ei chynnal a'i hariannu trwy PAPC Cymru. Codir arian naill ai drwy PAPC Cymru neu drwy nawdd.
14. Os bydd PAPC Cymru'n codi arian penodir Trysorydd a bydd dulliau gweithredu cyfrifyddol ar waith. Caiff hyn ei adolygu'n flynyddol.

 


Cliciwch yma i brintio'r ddogfen gyfan-Fformat Adobe Acrobat

Yn ôl i PAPC Is-Ranbarthol Cymru