Model o Gylch Gorchwyl
ar gyfer Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Cymru
Cylch Gorchwyl

Cydlynu gwaith er mwyn peri cyn lleied â phosib o anhwylustod i ddefnyddwyr y priffyrdd, gan gynnwys:

  1. Rhoi cyfrif am brosiectau mawr penodol awdurdodau'r priffyrdd a'r ymgymerwyr;

  2. Rhaglenni blynyddol tymor canol (gwaith cyfalaf a gwaith cynnal a chadw) ar gyfer gwaith at ddibenion y ffyrdd a gwaith stryd;

  3. Polisïau lleol sy`n effeithio ar waith stryd, gan gynnwys cynigion i reoli traffig.

Cyfeirir materion ehangach at y PAPCau Is-ranbarthol.

Aelodau

Cynrychiolwyr o unrhyw Gyfleustodau neu Awdurdodau'r Priffyrdd sy`n gwneud Gwaith Stryd neu Waith at Ddibenion y Ffyrdd ac Awdurdodau y Strydoedd. Caiff cynrychiolwyr o`r awdurdodau strydoedd cyfagos, yr awdurdod cynllunio lleol, yr heddlu, y gwasanaethau argyfwng, grwpiau anabl neu eraill fynychu fel bo angen.

Amlder y Cyfarfodydd

Fel rheol cynhelir y cyfarfodydd yn chwarterol neu ar gais yr aelodau.

Gwasanaethu

Bydd Awdurdod y Strydoedd yn gyfrifol am wasanaethu`r cyfarfodydd



 Yn ôl i'r Canllawiau