|
Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 |
|
|
|
|
ARWYDDION
DWYIEITHOG AR GYFER GWAITH STRYD
|
Pwrpas y cyhoeddiad hwn yw:
Noder: Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer pob ymgymerydd a`u contractwyr, ac mae ar gyfer pob math o waith. |
|
2.1 Cyffredinol Dywed Rheoliad 4(1) o Reoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Darpariaethau Cymraeg a Saesneg) 1985 (Rhif 713) bod modd "defnyddio arwyddion dwyieithog yng Nghymru". 2.2 Defnyddio Arwyddion Dwyieithog Mae, a bu ers tro byd ymhlith aelodau PAPC Cymru, gytundeb cyffredinol o blaid cyflwyno arwyddion dwyieithog ar gyfer gwaith ar y strydoedd yn raddol ac yn wirfodol. Yn wir, mae`n beth digon cyffredin i weld, yn ogystal a gwaith ar y priffyrdd, arwyddion dwyieithog wedi eu gosod wrth ymyl gwaith ar y strydoedd mewn rhannau o`r rhanbarth. |
|
3.1 Gosod yr Arwyddion O ddefnyddio arwyddion dwyieithog dylid eu gosod yn unol a`r Cod Arferion Diogelwch a Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd a gyhoeddwyd dan adrannau 65 a 124 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. 3.2 Setiau Llawn o Arwyddion Dwyieithog Ar bob adeg mae`n well defnyddio setiau llawn o arwyddion dwyieithog. Er mwyn hwyluso hyn dylid mynd ati i sicrhau y bydd pob tim yn cario digon o arwyddion dwyieithog ar gyfer yr holl fathau o waith y maen nhw`n debygol o`i wneud. |
|
4.1 Torri`r Cod Arferion Os defnyddir arwyddion dwyieithog a thorri`r cod , fe wnaiff yr awdurdod gymryd camau priodol y pryd hynny. Os cafodd yr archwiliad ei samplo ar hap ac y darganfyddir arwyddion, goleuadau a gwarchodfeydd annigonol yna caiff hynny ei gynnwys mewn adroddiad ar berfformiad yn y dyfodol 4.2 Cydymffurfio a`r Canllawiau Os na fydd dim ymdrech i ddefnyddio arwyddion dwyieithog neu os bydd yr arwyddion wedi eu cymysgu gydag arwyddion uniaith Saesneg yna bydd yr awdurdod yn hysbysu`r ymgymerydd perthnasol am hynny. |
|
5.1 PAPC Isranbarthol Dylai pob PAPC Isranbarthol drafod cydymffurfio â`r Canllawiau hyn fel eitem sefydlog a riportio i PAPC Cymru am eu canfyddiadau. Byddai adroddiadau o`r fath yn dangos y cedwid at y cytundeb PAPC Cymru hwn gan fonitro ei effeithiolrwydd. |
|
|
|