|
Dylid defnyddio
rheolaeth ar draffig os yw'n ofynnol yn ôl y meini prawf a dylid defnyddio
arwyddion traffig dros-dro mewn pob gwaith o'r fath ar Gefnffyrdd a Phrif
Ffyrdd mewn Ardaloedd Trefol a phob gwaith ar ffyrdd gwledig sydd heb
gyfyngiad arnynt.
4.1 Darparu
Ardaloedd Diogel
Ar
gyflymderau uwch na 40 mya mae'n ofynnol yn y Cod fod ardal ddiogel o
1.2m. Ar gyflymderau o 40 mya neu lai gellir lleihau'r ardal ddiogel i
0.5m. Mewn safleoedd lle nad yw'n bosib cynnal ardal ddiogel ynghyd â
lled lôn minimwm ar gyfer y math o draffig a ddisgwylir, gellir lleihau'r
ardal ddiogel os caiff y cyflymderau eu lleihau i 10mya neu lai.
Mae
rhwystrau gosod ac arwyddion traffig dros-dro'n un ffordd o leihau cyflymder.
(gweler Atodiad 2)
Os
bydd angen lleihau cyflymder cerbydau, dylid gosod arwyddion traffig dros-dro
ac arwyddion a chonau priodol yn unol ag Adran 5 er mwyn creu rhwystrau
gosod ar bob pen i'r gwaith.
4.2
Gwaith
ar Ffyrdd Cul Iawn. (gweler Atodiad 3)
Er
mwyn delio â rhai o'r problemau sy'n ymwneud â ffyrdd cul iawn dylid ystyried
y canlynol o ran Mân Waith.
Gyda
chaniatâd Awdurdod y Strydoedd bydd modd defnyddio goleuadau traffig dros-dro
a fydd yn caniatau 'cyfnod golau coch estynedig' ar gyfer Mân Waith ar
ffyrdd cul iawn gyda llif traffig isel (yn bendant ddim ar Gefnffyrdd,
na ffyrdd dosbarth A neu B) lle bo'r gwaith, gan gynnwys yr offer a ddefnyddir
ayb, yn lleihau lled y ffordd yn llai na'r lled isaf posib ar gyfer y
math o draffig a ddisgwylir, lle nad yw'n bosib cynnal troedffordd o 1.0m
a lle nad oes llwybrau ymarferol eraill.
Bydd
rhaid bod y gweithredwyr yn medru gweld pob pen i'r ffordd ar bob adeg,
a bod yn gyfrifol am aildrefnu'r gwaith fel y gellir pennu'r lled ffordd
isaf i adael i gerbydau ac/neu gerddwyr gael eu tywys heibio'r gwaith.
Dylai
lleoliadau a phellteroedd yr arwyddion fod yn unol â'r Cod gan osod arwyddion
ychwanegol fel bo angen. Ni ddylid oedi rhagor na 5 munud ar y cerbydau
Dylid
gosod arwydd "Oedi Hir o'ch Blaen" ar y cyffyrdd sy'n arwain i'r gwaith.
Fe
wnaiff Awdurdod y Strydoedd hysbysu'r Gwasanaethau Argyfwng ymlaen llaw
am leoliad y gwaith dan sylw a wneir gan Ymgymerwyr ac Eraill gan ddefnyddio
darpariaethau'r Atodiad hwn.
Bydd
rhaid i'r Ymgymerwyr ac eraill sy'n defnyddio darpariaethau'r atodiad
hwn i wneud gwaith argyfwng neu waith brys hysbysu'r Gwasanaethau Argyfwng
am y lleoliad ar unwaith.
Dylid
rhoi mynediad i'r Gwasanaethau Argyfwng ar unwaith a'u hysbysu ymlaen
llaw am leoliad y gwaith.
|