|
Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 |
|
|
|
|
AILSEFYDLU
HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS
|
|
|
|
Mae`r canllawiau hyn yn ymdrin ag ailsefydlu Hawliau Tramwy Cyhoeddus Swyddogol nad ydynt yn perthyn i'r categoriau a ddiffinnir yn y Côd Ymarfer ailsefydlu. |
|
|
Nodwyd tair math o Hawl Tramwy Cyhoeddus at ddibenion ailsefydlu:- |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Os oedd yr arwyneb gwreiddiol yn un rhwymedig, dylid adeiladu'r arwyneb gan ddefnyddio deunyddiau tebyg. |
|
|
Ar adeg y trosglwyddo dylai'r cyflwr fod yn unol â M2.26 y Côd Ymarfer "Manyleb ar gyfer Ailsefydlu Agoriadau mewn Priffyrdd". |
|
|
|
|
|
|
|
Dylid ailsefydlu llecynnau gwair yn unol â M9 Paragraff 2 y Côd Ymarfer "Manyleb ar gyfer Ailsefydlu Agoriadau mewn Priffyrdd". |
|
|
|
|
Oni bai y byddant yn cael eu cau o dan bwerau Ddeddf Rheoli Traffig y Ffyrdd 1984, ni ddylai fod unrhyw rwystrau ar unrhyw Hawl Tramwy neu dylid cynnal llwybr arall yn ôl yr angen nes bo'r gwaith wedi ei orffen. Dylid amgáu pob gwaith cloddio yn ddiogel bob amser. |
|
|
|
|
Lle bydd ailsefydlu'n cael ei wneud ar dir amaethyddol, dylid gofalu na fydd y draeniad amaethyddol yn cael ei effeithio. Dylid gofalu hefyd na fydd y deunyddiau ailsefydlu'n creu draen a allai arwain at ollwng dwr i ddyfrffos heb ganiatad, neu at hel dwr yn agos at gyfarpar. |
|
|
|
|
Cymeradwywyd y Canllawiau hyn gan PAPC CYMRU yn ei gyfarfod ar Orffennaf 24ain 1996 |