|
Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 |
|
|
|
|
GORGYFFWRDD
AR DYLLAU CYFLEUSTODAU
|
O archwilio nifer o hawliadau yswiriant trydydd parti nodwyd sgidio ar lecynnau/gwaith adfer sy'n gorgyffwrdd fel achos posib. Caniateir gorgyffwrdd yn y Cod Ymarfer cymeradwy, "Manyleb ar gyfer Adfer Tyllau yn y Briffordd", yn Neddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Caiff gorgyffwrdd ei wneud ar ddisgresiwn y gweithredwyr yn amodol ar y canlynol; Os nad yw'r tyllu wedi eu nodi gan llifiau pafinoedd fe all problemau godi, ond fodd bynnag dewis y gweithredwyr yw'r dulliau gwaith a ddefnyddir. |
||
Yn ôl A6.5 (1) o'r Cod Ymarfer uchod: Dylai pob ymyl rhwymedig fod yn syth, yn llyfn, yn fertigol ac yn gyfochrog â lein unrhyw dwll. Dylai pob agoriad gael ei "sgwario" fel bo angen er mwyn creu siâp plaen rheolaidd pan edrychir arno oddi fry. Yn ôl A6.5 (3) o'r Cod Ymarfer uchod: Ar unrhyw adeg interim a phan fydd y gwaith adfer terfynol yn cael ei wneud dylid peintio pob ymyl fertigol rhwymedig, pob cyrbin a phob caead haearn gyda selydd ymylon sydd wedi ei wneud gyda bitwmen neu'u paratoi gyda system neu ddefnydd cyffelyb o selio ymylon. Ni ddylid defnyddio toddyddion cot tac fel selydd ymylon. Ni ddylai'r selydd oferu na thasgu ac ni ddylid gorbeintio wyneb y ffordd gyfagos, yn amodol ar ofynion Adran 6.5 (6). A.6.5 (6) o'r Cod Ymarfer uchod: Ni ddylai unrhyw orgyffwrdd neu gotio ar wyneb y ffordd, ar y cysylltiad rhwng y ffordd bresennol ac ymyl y gwaith adfer, fod yn fwy na 3mm o drwch na 40mm o led. Bydd gwerth isaf y defnydd a ddefnyddir o ran atal sgidio yn 55 SRV, yn unol â'r teclyn mesur atal sgidio TRRL cludadwy a ddefnyddir yn unol â Nodyn Ffyrdd 27 : 1969 (a geir gan Lyfrfa Ei Mawrhydi). |
||