|
Pwrpas y cyhoeddiad
hwn yw:
- gosod fframwaith
i awdurdodau priffyrdd ac ymgymerwyr statudol ar gyfer dadansoddi canlyniadau
perfformiad a gweithredu arnynt yn seiliedig ar archwiliadau o samplau
a wnaed ar hap; a
- galluogi adroddiadau
am berfformiad i gael eu cynhyrchu a rhoi sicrwydd am uniondeb y canlyniadau
a gafwyd; a
- ei gwneud yn hwylus
i hysbysiadau am welliannau fynd ger bron HAUC Cymru.
|
|
Dylai Hysbysiadau
Gwella gael eu seilio ar ganlyniadau'r holl archwiliadau a ddewiswyd ar
hap. Gall y rhain gynnwys archwiliadau ar hap a ariennir gan awdurdod
y strydoedd.
- Os bydd maint y
sampl yn fach mewn unrhyw chwarter, yn 30 neu lai, a bod canran y diffygion
yn 10% neu fwy, ni fydd unrhyw rybudd gwella yn cael ei gyhoeddi, ond
caiff yr awdurdod anfon llythyr ffurfiol.
- Dylai Rhybuddion
Gwella gael eu rhoi o fewn mis i'r chwarter dan sylw.
|
|
- Lle bo mwy na 10%
o'r sampl o'r archwiliadau ar yr ymgymerwr yn datgelu diffygion dros
unrhyw chwarter a gytunwyd caiff awdurdod y strydoedd gyflwyno Rhybudd
Gwella (Atodiad 1), neu anfon llythyr ffurfiol yn achos sampl fechan,
yn datgan bod yr Awdurdod yn anfodlon ar berfformiad yr ymgymerwr.
- Anfonir y Rhybudd
Gwella at y sawl a enwebwyd gan PAPC Cymru, ac fe'i anfonir o fewn mis
i'r chwarter dan sylw.
- O fewn mis o roi
Rhybudd Gwella bydd yr ymgymerwr yn rhoi gwybod i awdurdod y strydoedd
am yr hyn y bwriada ei wneud am y sefyllfa.
- Ymdrinnir ag unrhyw
anghydfod a fydd yn deillio o'r Rhybudd yn unol â Chyngor PAPC ynghylch
cymrodeddu a chymodi.
- Mae'r cyfnod ar
gyfer anfon llythyrau ffurfiol ac ymateb iddynt yr un fath ag ar gyfer
Rhybuddion Gwella.
- Dylai awdurdod
y strydoedd gyhoeddi adroddiadau perfformiad chwarterol i'r ymgymerwr,
ac argymhellir y dylent lunio adroddiad cryno blynyddol i'r pwyllgor
priodol o'r cyngor.
- Anfonir manylion
am y Rhybuddion Gwella a dderbyniwyd at Ysgrifennydd PAPC Cymru er gwybodaeth
a'u pasio ymlaen.
|