|
Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 |
|
|
|
|
AIL-LEFELU
FFRAMIAU A GORCHUDDION A GYNHWYSIR O FEWN GWAITH PRIFFYRDD
|
|
1 |
Pwrpas y canllawiau hyn yw sicrhau y cydymffurfir â'r holl ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol lle mae gwaith ar y priffyrdd yn golygu ail-lefelu fframiau a gorchuddion ymgymerwr, a rhoi cyngor ynghylch materion cysylltiedig gan gynnwys hysbysu a chofrestru gwaith, archwiliadau cyn gwneud y gwaith, cyfrifoldeb am waith cynnal a chadw ac archwilio ar y cyd os bydd anghytundeb am unrhyw ddiffygion. |
||||
|
2 2.1 |
Fel rheol ni fydd gwaith ail-wynebu'n golygu fawr ddim newid yn lefel y briffordd ac mae'r gwaith hwn yn cael ei ystyried yn waith cynnal a chadw neu'n 'waith at bwrpas y ffyrdd'. |
||||
|
2.2 |
Os bydd Awdurdod y Priffyrdd yn gwneud gwaith o'r fath bydd rhaid iddo gydymffurfio â'r ddyletswydd a bennir yn Adran 83 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, a chymryd pob cam rhesymol i warchod offer yr Ymgymerwr yn unol ag unrhyw ofynion a wnaed. |
||||
|
2.3 |
Mae Côd Ymarfer HAUC ar gyfer Gwaith Gwyro, 5.9 yn nodi'n rhannol: "Fel rheol dylai gwaith ar y priffyrdd sy'n ymwneud ag ail-lefelu fframiau a gorchuddion ymgymerwr gael ei wneud gan awdurdod y priffyrdd yn unol â manyleb y cytunwyd arni ac a ddylai gynnwys gofynion y proffil arwyneb yn Adran 2.2 o'r Fanyleb ar gyfer Adfer Agoriadau yng Nghôd Ymarfer y Priffyrdd. Os bydd yr ymgymerwr yn gofyn, bydd rhaid i awdurdod y priffyrdd sicrhau na ellir cael mynediad at gyfarpar heb ganiatâd, er enghraifft, drwy ddarparu gorchuddion addas dros-dro ". |
||||
|
2.4 |
"Bydd unrhyw ddeunyddiau arbennig sy'n ofynnol ar gyfer y pwrpas yn cael eu cyflenwi (a'u gosod os bydd angen) am ddim gan yr ymgymerwr, yn ogystal â'r holl fframiau a gorchuddion newydd os yw'r rhai presennol wedi treulio neu wedi e'u difrodi." |
||||
|
2.5 |
Cymeradwyir y côd ar gyfer Gwaith Gwyro dan Adran 84 ac 85 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, a'r Fanyleb Adfer, a'r Fanyleb Adfer dan Adran 71 o Ddeddf Ffyrdd newyd a Gwaith Stryd 1991 - Deunyddiau, safon gwaith a safon y gwaith adfer. |
||||
|
3 |
RHYBUDD: COFIWCH YMGYNGHORI Â'R YMGYMERWR STATUDOL BOB TRO OS YDYCH YN CREDU BOD NWY NEU SYLWEDDAU PERYGLUS YN BRESENNOL. |
||||
|
3.1 |
Bydd y contractwr yn cymryd pob cam rhesymol i'ch sicrhau bod y siambr yn glir rhag nwy a sylweddau peryglus eraill cyn dechrau ar waith ar y siambr. |
||||
|
3.2 |
Os yw'r contractwr yn darganfod bod nwy neu sylweddau peryglus eraill yn y siambr rhaid iddo roi gwybod i'r ymgymerwr statudol ar unwaith. Noder os gwelwch yn dda: Peidiwch â rhoi'r gorchudd yn ôl dros y siambr. |
||||
|
4 4.1 |
Bydd Adain Gwaith Stryd yr Awdurdod yn dosbarthu hysbysiad cofrestru Adran 83 i Ymgymerwyr Statudol un mis cyn dyddiad dechrau'r gwaith ar y briffordd. |
||||
|
4.2 |
Bydd yr Awdurdod yn cysylltu â'r Ymgymerwyr Statudol cyn dechrau ar waith ar priffordd, o ran:
|
||||
|
4.3 |
Yn ystod gwaith ar briffordd, os bydd yr Awdurdod neu'r contractwr yn darganfod nad yw unrhyw ffrâm neu orchudd(ion) yn ffitio ar gyfer ail-lefelu, bydd yr Awdurdod yn hysbysu'r ymgymerwr statudol ar unwaith. |
||||
|
4.4 |
Bydd yr Ymgymerwr Statudol yn trefnu i newid y ffrâm a'r gorchudd(ion) am ffrâm a gorchudd(ion) newydd priodol a roddir am ddim i'r awdurdod. |
||||
|
5 5.1 |
Os na fydd neb yn gwrthwynebu i'r awdurdod ymgymryd ag ail-lefelu'r fframiau a'r gorchuddion, bydd yr ymgymerwr yn darparu manyleb at y diben hwnnw a fydd yn cynnwys y gofynion o ran proffil yr arwyneb yn Adran 2.2 o'r Fanyleb Adfer. |
||||
|
5.2 |
Wrth gyflawni'r gwaith bydd yr Awdurdod yn cymryd pob cam ymarferol rhesymol i roi cyfle i'r ymgymerwr i fonitro'r gwaith a bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion sy'n angenrheidiol yn rhesymol ar gyfer gwarchod yr offer a sicrhau y gellir mynd ato. |
||||
|
5.3 |
Yn ystod y gwaith ar y priffyrdd neu cyn hynny os bydd yr Awdurdod yn darganfod bod angen gwaith trwsio ar y seilwaith o dan y ffrâm a'r gorchudd er mwyn cyflawni'r safonau proffil arwyneb sydd yn adran 2.2 o'r Fanyleb Adfer bydd yr ymgymerwr yn trefnu i waith adfer gael ei wneud yn ddi-oed. |
||||
|
6 6.1
|
Bydd yr awdurdod yn sicrhau bod yr holl waith yn cydymffurfio â'r safonau perfformiad proffil arwyneb sydd yn adran 2.2 o'r Fanyleb Adfer a bod ei gyflwr fel y nodwyd ar adeg y trosglwyddo . |
||||
|
6.2 |
Bydd yr awdurdod yn talu costau unrhyw waith adfer a ddigwydd oherwydd iddo ef ei hunan beidio â chydymffurfio yn ystod y cyfnod cynnal a chadw. |
||||
|
6.3 |
Os na fydd yr Awdurdod yn credu mai ef oedd yn gyfrifol am fethu â chydymffurfio mewn unrhyw achos, e.e. yn achos methiant strwythurol nad yw'n ymwneud â'r gwaith, rhaid cynnal archwiliad ar y cyd ar unwaith i gytuno pwy sy'n gyfrifol a gwneud trefniadau ar gyfer gwneud gwaith adfer ar unwaith. |
||||
|
6.4 |
Er diogelwch y cyhoedd efallai y bydd yn rhaid i'r Awdurdod sicrhau y bydd unrhyw ffrâmiau a gorchuddion a wnaed yn beryglus o ganlyniad i fethiant strwythurol yn cael eu gwneud yn ddiogel. |
||||
|
6.5 |
Mewn amgylchiadau o'r fath bydd yr awdurdod yn defnyddio'r pwerau sydd ganddo dan Adran 81 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 ac mae ganddo hawl i adennill yr holl gostau rhesymol. |
||||
|
6.6 |
Serch hynny, ni fydd yr awdurdod yn ceisio adennill ei gostau hyd nes bo archwiliad ar y cyd wedi cytuno pwy sy'n gyfrifol. |
||||
|
7 7.1 |
Bydd yr awdurdod yn sicrhau bod safonau perfformiad proffil yr arwyneb yn Adran 2.2 y Fanyleb Adfer yn cydymffurfio â'r safonau a nodwyd drwy gydol y cyfnod cynnal a chadw. |
||||
|
7.2 |
(Bydd y cyfnod cynnal a chadw fel y cytunwyd gan bob un o'r PAPCau lleol). Mae PAPC [rhowch enw'r PAPC lleol ] wedi cytuno y bydd y cyfnod cynnal a chadw'n dechrau ar ôl cwblhau'r gwaith ail-lefelu ac yn para am [nodwch hyd y cyfnod cynnal a chadw] mis. |
||||
|
7.3 |
O fewn saith diwrnod gwaith wedi cwblhau'r gwaith, dylai'r gwaith gael ei gofrestru gyda'r Ymgymerwr gan gynnwys manylion am y cyfnod cynnal a chadw. |
||||
|
8 8.1 |
Bydd unrhyw anghydfod ynglyn â phwy sy'n gyfrifol am fethiannau neu unrhyw fater arall, yn cael ei gyfeirio ar gyfer ei gymrodeddu yn unol â'r trefniadau a nodwyd yn y côd ymarfer ar gyfer Cydlynu Gwaith Stryd a Gwaith at Ddibenion y Ffyrdd. |
||||
|
9 9.1 |
Mae'r ymgymerwr yn gyfrifol am ei offer ei hun ar bob adeg. |
||||
|
9.2 |
Bydd hyn yn cynnwys achosion lle mae'r Awdurdod yn ymgymryd ag unrhyw waith a ddisgrifir uchod, tra pery'r gwaith hwnnw ac unrhyw safonau perfformiad, y cyfnod cynnal a chadw a nodir ac ar ôl hynny. |
||||
|
10 |
Cymeradwywyd y Canllawiau hwn gan PAPC Cymru yn ei gyfarfod ar 28 Mehefin 1995. |
||||