ATODIAD 1
Mathau a Chyfyngiadau Nodweddiadol Adeileddau
1 Mae ffigurau 1 i 11 yn dangos y mathau cyffredin a nodweddiadol o adeileddau'r briffordd, y termau a ddefnyddir, Ardal Gyfyngedig nodweddiadol y gall yr awdurdod sy'n berchen ar yr adeiledd ei dynodi, lleoliadau nodweddiadol o ran pilennau gwrthsefyll dw^r ar bontydd a rhai o'r cyfyngiadau y gallai'r awdurdod eu pennu ar gyfer gosod gwasanaethau arnynt. Nid yw'r rhain yn gynhwysfawr ond yn hytrach maent yn rhoi syniad bras inni.
 
2 Mae ffigur 1 yn dangos Ardal Gyfyngedig nodweddiadol y gall awdurdod y pontydd ei dynodi. Fel rheol byddai'n cynnwys lled y stryd gyfan a bydd ei hyd yn ymestyn am 2 fetr y tu hwnt i ben pob parapet neu reil. Fodd bynnag, mae maint Ardal Gyfyngedig yn rhywbeth goddrychol a dylai pob parti gymryd agwedd hyblyg wrth ystyried yr amgylchiadau neilltuol er mwyn lleihau'r perygl o achosi difrod i'r adeiledd wrth wneud gwaith stryd.
 
3 Mae'r holl ddimensiynau yn ffigurau 1 i 11 mewn milimedrau.
 
   
Cliciwch ym i brintio-Fformat MS Word
Cliciwch ym i brintio-Fformat Adobe Acrobat

Ffigur 1
Ffigur 2
Ffigur 3
Ffigur 4
Ffigur 5
Ffigur 6
Ffigur 7
Ffigur 8
Ffigur 9
Ffigur 10
Ffigur 11
 

Yn ôl i Canllawiau