Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991

CANLLAWIAU
MEINI PRAWF AR GYFER GWEITHIAU YMCHWILIOL DRWY SAMPL O
CRAIDD (TYLLAU PRAWF)
1. PWRPAS

Pwrpas y cyhoeddiad hwn yw:

  1. Gosod fframwaith ar gyfer Awdurdodau Priffyrdd ac Ymgymerwyr Statudol wrth iddynt gyflawni gwaith creiddio; a
  2. Galluogi ymarferion creiddio unigol neu ar y cyd i gael eu cyflawni a rhoi sicrhad ynglyn â chywirdeb y canlyniadau a gafwyd.

1.1 Cyffredinol

Cyfrifoldeb y corff sydd yn achosi'r gweithgaredd creiddio fydd sicrhau y cedwir at bob deddfwriaeth berthnasol.

1.2 Adfer y tyllau prawf

Adferir tyllau prawf yn unol â chyhoeddiad yr Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau, 'Manylion yngly^n ag Adfer Agoriadau mewn Priffyrdd' fel y'u diwygiwyd gan Nodyn Cynghori 4 yr Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau (Hydref1996).

2. TREFNIANT AR GYFER DETHOL SAMPLAU

Dewisir safleoedd archwilio o blith samplau ar hap.

  1. Dylai nifer y safleoedd fod yn gyfrannol â gweithgaredd yr ymgymerwr ac yn amodol ar adolygu perfformiad.
  2. Pan mai pwrpas y gwaith ymchwiliol yw asesu a phenderfynu'r tueddiadau perfformiad presennol, gellir cymryd samplau craidd o fewn 6 mis i gwblhau'r gwaith adfer parhaol.
  3. Lle mai pwrpas y gwaith ymchwiliol yw sicrhau a yw ymgymerwr wedi cydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithiau Strydoedd 1991, gall yr Awdurdod Strydoedd a/neu'r Ymgymerwr gymryd samplau craidd, fel yr ymddengys eu bod yn angenrheidiol.
3. ANGHENION HYSBYSU

3.1 Rhagrybudd o'r Rhaglen Greiddio

Dylai'r Awdurdod Priffyrdd a'r Ymgymerwyr Statudol roi rhybudd yngly^n â phob cam o'u cyd-raglen greiddio, o leiaf 7 niwrnod cyn dechrau'r gwaith.

4. MONITRO'R GWAITH YMCHWILIO

4.1 Gwaith Ymchwilio A Gyflawnwyd Gan Ymgymerwr Statudol

i Dylid gwahodd yr Ymgymerwr Statudol i fonitro'r Gwaith Ymchwiliol.

ii Dylid asesu a dosbarthu pob sampl craidd fel a ganlyn:

  1. Cydymffurfio Technegol: pan fo'r adfer yn cwrdd ag anghenion manylion yr Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau;
  2. Heb Gydymffurfio yn Dechnegol: pan na fo'r gwaith adfer yn cwrdd â holl anghenion manylion yr Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau ac yn amodol ar gytundeb, efallai nad yw gwaith atgyweirio yn angenrheidiol.
  3. Diffygion: pan fyddai adfer heb gydymffurfio yn dechnegol yn gwarantu gwaith adfer.

iii Bydd y trefniant adfer diffygion yn cydymffurfio â 3(ii)(c) uchod.

iv Pan geir adfer nad ydyw yn cydymffurfio yn dechnegol (3(ii)(b) uchod), dylai pob cost rhesymol gael eu codi ar y Gwasanaeth yn unol â threfniant yr Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau.

4.2 Gwaith Ymchwiliol a Gyflawnwyd gan yr Ymgymerwr Statudol

  1. Dylid gwahodd yr Awdurdod Priffyrdd i fonitro'r Gwaith Ymchwiliol.
  2. Bydd y trefniant adfer diffygiol, gan ei fod yn ymwneud â graddfeydd amser a mesurau cywiro, yn berthnasol i adferiadau nad ydynt yn cydymffurfio ac a nodwyd gan samplo craidd. Fodd bynnag ni chodir tâl adfer diffygiol o dan yr amgylchiadau hyn.

4.3 Profi er mwyn Sicrhau Ansawdd gan Ymgymerwyr Statudol

  1. Gall Ymgymerwyr Statudol gyflawni Profion Sicrhau Ansawdd yn ychwanegol at yr uchod, lle bo hynny'n briodol. .

Nodyn:
Bydd pob gwaith samplo a wneir, o ganlyniad i waith adfer nad ydyw yn cydymffurfio ac a nodwyd gan samplo craidd, yn amodol ar anghenion hysbysu Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithiau Stryd 1991 a dylid ei gwblhau o fewn y graddfeydd amser a nodwyd yn Nodiadau Cynghori Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethu Cymru sydd yn dwyn yr enw Egwyddorion ar gyfer Ymdri â Diffygion.

5. DILYSU DULL PROFI A PHROFI DEFNYDD

Gall y gwaith ymchwiliol gael ei wneud gan naill ai'r Awdurdod Priffyrdd neu Ymgymerwr Statudol, neu eu cynrychiolydd a benodwyd/enwebwyd.

  1. Dylid profi defnydd sampl er mwyn gweld a ydyw yn cydymffurfio â'r Safon Brydeinig neu Ewropeaidd sydd yn briodol ar gyfer y defnydd a'r ''Manylion ar gyfer Adfer Agoriadau mewn Priffyrdd''.
  2. Dylai profion dadansoddi ar ddefnyddiau gael ei gyflawni gan Labordy awdurdodedig NAMAS a gymeradwywyd ar gyfer gwneud y cyfryw brofion yn unol â threfniant y Safonau Prydeinig neu Ewropeaidd Safonol.
  3. Gellir cael cyngor labordy awdurdodedig NAMAS petai anghytundeb neu amheuaeth yngly^n â disgrifiad o'r defnydd a chydymffurfiaeth , a sut y cyflawnwyd y gwaith adfer.
  4. Caiff mesuriad unionlin o sampl craidd ei eithrio o ii) a iii) uchod.
  5. Gellir cychwyn ar Nodyn Cynghori 1 yr Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau sydd yn dwyn y teitl ''Trefniant Cymodi a Chyflafareddu'' os methir cael cytundeb.
6. ANGHENION PERFFORMIAD

6.1 Ar gyfer samplau craidd llai na 100mm mewn diamedr:

  1. Trwch cyffredinol y defnydd arwyneb
  2. Trwch unigol y defnydd arwyneb

Gellir penderfynu ar y canlynol drwy cyd-gytundeb :

Defnydd cywir

Cywasgu'r defnydd arwyneb

6.2 Ar gyfer samplau craidd mwy na 100mm mewn diamedr:

  1. Trwch cyffredinol y defnydd arwyneb
  2. Trwch unigol y defnydd arwyneb.
  3. Defnydd cywir, gan brawf labordy
  4. Defnydd Cyfansoddol a benderfynwyd gan brawf labordy.

Gellir penderfynu ar y canlynol drwy gyd-gytundeb:

Cywasgu'r defnydd arwyneb

6.3 Nodyn:

  1. Efallai y bydd ar y Labordy a benodwyd i ymgymryd â'r profi, angen creiddiau ychwanegol er mwyn bodloni a chydymffurfio â'r maint samplau lleiaf posibl at amcanion dadansoddi.
  2. Bydd profion dadansoddol yn cynnwys: cynnwys glynu; gradd y cerrig mân a'r math (h.y. carreg galch/carreg rud/gwenithfaen ayb.) Os yw ffynhonnell y defnydd yn hysbys, yna mae'n debygol y bydd gwerth PSV y cerrig mân hefyd yn hysbys (yn berthnasol i gwrs traul parhaol a dros dro).
7. AMLDER A LLEOLIAD Y TYLLAU PROFI
  1. Isafswm o 1 sampl craidd am bob 20 metr sgwâr neu ran ohono; neu
  2. Isafswm o 1 sampl craidd am bob 100 metr o hyd neu ran ohono.
  3. Lle nodwyd sampl nad ydyw yn cydymffurfio, gellir cymryd samplau craidd er mwyn penderfynu maint o ddiffyg cydymffurfio sydd yna, os oes angen.
  4. Cytunir ar safle pob sampl craidd ar y safle.
8. CYFNOD CADW'R SAMPL CRAIDD

Bydd yr Awdurdod Priffyrdd a'r Ymgymerwr Statudol yn cael cynnig y cyfle i edrych ar y creiddiau wrth neu ar ôl cyflwyno'r canlyniadau.

Cedwir samplau craidd hyd oni chwblheir y gwaith atgyweirio yn unol â'r manylion adfer.

9. IECHYD A DIOGELWCH, A DIOGELWCH SAFLE A RHEOLI TRAFNIDIAETH

Cyfrifoldeb y corff sydd yn gwneud y creiddio fydd sicrhau y cydymffurfir â phob deddfwriaeth berthnasol.

10. PCSM's

Lle cymerir samplau craidd o'r adfer sydd yn cynnwys PCSM au, bydd yr Ymgymerwr yn darparu'r Awdurdod Priffyrdd gyda Tystysgrifau Cymeradwyo'r Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau.

11. FFORMAT YR ADRODDIAD

Dylai'r adroddiad sampl craidd fod ar y fformat a ddangosir yn Atodiad A

12. TREFNIANT ADRODD

Dylai adroddiad llawn o bob sampl craidd a gymerwyd gael ei gopio,a'i anfon o fewn un mis, i'r Awdurdod Priffyrdd neu'r Ymgymerwr Statudol, y naill y llall.

Dylai'r Awdurdod Priffyrdd perthnasol gyflwyno crynodeb o'r canlyniadau i'r Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau Lleol ac Awdurdod Priffyrdd a Chwmniau Gwasanaethau Cymru .

Cliciwch yma ar gyfer Atodiad A

Cliciwch yma ar gyfer Atodiad B