Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991

CANLLAWIAU
EGWYDDORION AR GYFER CYDLYNU EFFEITHIOL
1 Pwrpas

Pwrpas y cyhoeddiad hwn yw
Gosod fframwaith ar gyfer awdurdodau'r priffyrdd ac ymgymerwyr statudol er mwyn iddynt gydymffurfio â Chod Ymarfer PAPC ar gyfer Cydlynu Gwaith Stryd a Gwaith at Ddibenion y Ffyrdd a materion cysylltiedig o dan Adrannau 56, 59 a 60 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991; a

  1. chydymffurfio â`r Model o Gylch Gorchwyl ar gyfer Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Cymru (Atodiad 1)
2. Rhagarweiniad

2.1 Mae`n ofynnol i Gyfarfodydd Cydlynu Lleol gyflawni swyddogaethau statudol, fel y nodir yn adrannau 56, 59 a 60 yn y Ddeddf. 

2.2 Mae`n ofynnol i bob awdurdod wneud ei orau i gydlynu gwaith o bob math, gan gynnwys ei waith ei hun. 

2.3 Mae`n ofynnol i bob ymgymerwr gymryd rhan yn y broses gydlynu, a chydweithredu gyda`r awdurdod ac ymgymerwyr eraill.

2.4 Er mwyn bodloni`r gofynion hyn, bydd yn rhaid cytuno a darparu strwythur cydlynu priodol, amserlen ar gyfer tasgau gweinyddol cysylltiedig, dull cytun o gyflwyno gwybodaeth am waith, a chynllunydd tymor hir ar gyfer Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol.

2.5 Er mwyn i`r cydlynu fod yn effeithiol, rhaid i hyrwyddwr y gwaith roi manylion am raglenni gwaith cyfalaf a gwaith cynnal a chadw blynyddol cyn gynted ag y bo`n ymarferol gwneud hynny. Rhaid i`r manylion hyn gael eu diweddaru'n chwarterol.

2.6 Mae`n bwysig i`r rhai sy`n mynychu'r cyfarfodydd cydlynu fod yn gyfarwydd â rhaglen waith eu corff eu hunain a dylai fod ganddynt yr awdurdod i`w hamrywio os bydd angen.

2.7 Lle bo mwy nag un rhanbarth ymgymryd yn ymdrin ag ardal cydlynu, dylai`r ymgymerwyr benodi prif gysylltydd i ymdrin ag absenoldebau. Dylai`r prif gysylltydd fod yn gyfarwydd â rhaglen waith ardal y cynrychiolydd absennol, a dylai fod ganddo'r awdurdod i`w hamrywio os bydd angen.

2.8 Mae`r Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol yn gweithredu fel ffocws ar gyfer nodi lle gallai fod gwrthdaro ynglyn â gwaith, ac yn ganllaw i beirianwyr a chynllunwyr enwebedig. Ond mae cydlynu yn broses barhaus, ac mae`n hanfodol bod cysylltiad parhaus rhwng yr amserau hyn i sicrhau bod materion sydd heb eu datrys yn cael eu datrys yn gyflym.

2.9 Lle bo hynny`n briodol, dylid trefnu cyfarfodydd cydlynu ychwanegol i ymdrin â chynlluniau sydd ag effeithiau mawr. Gallai'r materion hyn gynnwys cau ffyrdd, rheoli traffig, gwasanaethau cludiant cyhoeddus, materion yn ymwneud â busnes a chymunedau, a'r gwasanaethau argyfwng.

3 Dulliau Gweithdredu

3.1 Bydd yr awdurdod yn rhoi rhestr o gyfarfodydd y Cyfarfod Cydlynu Lleol Chwarterol i`r ymgymerwyr a staff perthnasol y priffyrdd o leiaf ddeuddeg mis ymlaen llaw. Dylai`r rhestr gynnwys amserlen ar gyfer cydymffurfio o ran darparu gwybodaeth am waith a thasgau gweinyddol.

3.2 Bydd yr awdurdod yn ceisio dosbarthu rhestr gydlynu gwaith ddiwygiedig o holl gynigion hyrwyddwyr gwaith i'r ymgymerwyr a pheirianwyr y priffyrdd, chwech wythnos cyn y Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol.

3.3 Bydd ymgymerwyr a pheirianwyr y priffyrdd yn archwilio'r rhestr o fewn pythefnos, wedi ei diwygio yn briodol, i roi manylion diwygiedig ynddi am raglenni ac unrhyw waith newydd. Os yn briodol, dylid dychwelyd y ffurflen heb ddim newidiadau arni.

3.4 Bydd yr Awdurdod yn dosbarthu agenda a rhestr wedi`i diweddaru, i`r ymgymerwyr a pheirianwyr y priffyrdd, un wythnos cyn y Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol.

3.5 Cyn mynychu`r Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol dylai hyrwyddwyr gwaith nodi unrhyw wrthdaro potensial ar gyfer eu gwaith eu hunain, a datblygu dewisiadau addas ar gyfer unioni'r gwrthdaro a'u rhoi ger bron y cyfarfod.

3.6 Dylid cyfyngu busnes y Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol i faterion sy'n codi, gwaith sydd wedi ei ail-raglennu a gwaith newydd, rheoli traffig. ac unioni unrhyw faterion a allai beri gwrthdaro o ran y gwaith.

3.7 O fewn un mis yn dilyn y Cyfarfodydd Cydlynu Lleol Chwarterol bydd awdurdod y priffyrdd yn dosbarthu cofnodion y penderfyniadau a wnaethpwyd.

4 Cyfarfodydd Cydlynu Ychwanegol

4.1 Bydd yr angen am gyfarfodydd cydlynu ychwanegol, a phenderfyniadau ynglyn â phwy fydd yn cymryd rhan ynddynt, yn dibynnu ar yr amgylchiadau i raddau helaeth.

4.2 Bydd awdurdod y priffyrdd yn darparu agendau a chofnodion ar gyfer y cyfarfodydd hyn ac yn eu dosbarthu fel bo`n briodol.

 Cliciwch yma ar gyfer Atodiad 1


Cliciwch yma i brintio'r ddogfen gyfan-Fformat MS Word
Cliciwch yma i brintio'r ddogfen gyfan-Fformat Adobe Acrobat