YMARFER GORAU MEWN GWAITH STRYD
A GWAITH AR Y PRIFFYRDD
CYFLWYNIAD
Mae twf yr economi, cyflwyno elfen gystadleuol i wasanaethau ymgymerwyr a galw cynyddol o du’r cwsmeriaid am wasanaethau hanfodol wedi arwain at gynnydd yn y gwaith cloddio ar y strydoedd er mwyn darparu’r gwasanaethau hynny.
Yn sgil y cynnydd yn nifer yr ymgymerwyr sydd wedi eu trwyddedu i osod prif gyflenwadau a cheblau yn ein strydoedd mae mwy o bosibilrwydd o wrthdaro rhwng yr ymgymerwyr sydd â hawl statudol i ddefnyddio’r strydoedd i ddarparu gwasanaethau hanfodol, awdurdodau’r priffyrdd ac eraill sy’n eu cynnal a’u cadw, a’r rhai sy’n defnyddio’r strydoedd at ddibenion cludiant sydd hefyd yn derbyn y gwasanaethau hynny.
Er lles y gymuned a’r economi mae’n bwysig sicrhau bod traffig, cerddwyr a seiclwyr yn gallu symud yn ddiogel ac yn effeithlon ar y strydoedd a hefyd yng nghyffiniau tramiau, rheilffyrdd ysgafn a chroesfannau. Er mwyn hwyluso hyn, mae’r canllawiau hyn, sydd wedi eu seilio ar brofiad ymarferol, yn rhoi egwyddorion ac enghreifftiau o’r ymarfer gorau ar gyfer gweithredu gwaith stryd a gwaith ar y priffyrdd. Y nod yw helpu ymgymerwyr, awdurdodau’r priffyrdd a chyrff eraill sy’n cyflawni gwaith yn y stryd i adeiladau ar sail yr egwyddorion hyn yn y dyfodol er mwyn gwarchod rhag unrhyw drafferth ac anghyfleustra diangen i ddefnyddwyr y priffyrdd.
Yn arbennig felly, mae’r canllawiau hyn yn rhoi enghreifftiau o ymarfer gorau mewn gwaith stryd, sy’n adeiladu ar sail egwyddorion Codau Ymarfer Pwyllgor Awdurdodau’r Priffyrdd a’r Cyfleustodau (PAPC), a’r ymarfer gorau mewn gwaith ar y priffyrdd dan Ddeddf y Priffyrdd 1980.¹ Cytunodd awdurdodau’r priffyrdd,, yr ymgymerwyr ac Adran yr Amgylchedd, Cludiant a’r Rhanbarthau (DETR) fod yr enghreifftiau hyn o ymarfer gorau’n ddymunol.
Anogir pawb sydd yngln â chynllunio, goruchwylio, gweithredu a monitro gwaith stryd a gwaith ar y priffyrdd i wneud y gwaith gan gyflawni eu dyletswyddau priodol dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (DFfNGS)², Deddf y Priffyrdd 1980 a’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Bwriedir i’r ddogfen ymwneud â phob gwaith ond yn benodol â gwaith cynlluniedig a gwaith cynnal a chadw cynlluniedig a gwaith ar lwybrau prysur a strategol. Nid yw’n dileu nac yn effeithio ar hawl yr ymgymerwyr neu’r awdurdodau i wneud gwaith argyfwng, gwaith brys, gwaith darparu ac adfer gwasanaethau cwsmeriaid neu waith cynnal a chadw arferol. Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru o dro i dro i adlewyrchu’r arfer cyfredol a fydd yn annog gwelliannau parhaus yn unol â’r ddeddfwriaeth Gwerth Gorau.
CYDLYNU GWAITH STRYD A GWAITH AR Y PRIFFYRDD
Dylai awdurdodau’r priffyrdd wneud ymrwymiad i gynnal eu gwaith yn unol ag egwyddorion y DFfNGS.
Creodd prif ddarpariaethau DFfNGS ddyletswyddau i awdurdodau’r strydoedd gydlynu pob gwaith (gan gynnwys gwaith at ddibenion y ffyrdd) ac i ymgymerwyr gydweithredu gydag awdurdodau’r strydoedd a’u gilydd. Dyma’r rhannau perthnasol o’r Ddeddf:
___________________________
¹ Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o Ddeddf y Priffyrdd 1980 yn Atodiad D.
² Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd
1991 yn Atodiad D.
"Bydd awdurdodau’r strydoedd yn gwneud eu gorau i gydlynu’r modd y gwneir pob gwaith (gan gynnwys gwaith at ddibenion y ffyrdd) yn y strydoedd y maent yn gyfrifol amdanynt." Adran 59 (1)
"Mae’r ddyletswydd honno’n cynnwys cydlynu gydag awdurdodau eraill y priffyrdd lle byddai gwaith mewn stryd y mae awdurdod yn gyfrifol amdani’n effeithio ar strydoedd y mae awdurdodau eraill yn gyfrifol amdanynt." Adran 59 (2).
"O ran gwneud gwaith stryd bydd yr ymgymerwyr yn gwneud eu gorau i gydweithredu gydag awdurdod y strydoedd a gydag ymgymerwyr eraill." Adran 60 (1)
Bydd y swyddogaeth gydlynu sydd yng Nghod Ymarfer Pwyllgor Awdurdodau’r Priffyrdd a’r Cyfleustodau (PAPC) ar gyfer "Cydlynu gwaith stryd a gwaith at ddibenion y ffyrdd a materion cysylltiedig", a elwir yma wedi hyn yn God Ymarfer PAPC³, yn gymwys yn genedlaethol i awdurdodau priffyrdd a’r ymgymerwyr oll. Bydd rhaid i awdurdodau’r strydoedd gydlynu’r modd y gwneir gwaith ar eu priffyrdd gan gydymffurfio â gofynion sydd yng Nghod Ymarfer PAPC. Amcanion y cydlynu hwn yn gyfartal yw:
Bydd cydlynu’n arbennig o gymwys i’r isod:
Egwyddorion Ymarfer Gorau wrth Gydlynu
Wrth wneud gwaith stryd a gwaith ar y priffyrdd, yr elfennau allweddol o ran cydlynu yw gwybodaeth dda, cyfathrebu da, cynllunio da a hyblygrwydd. Nid oes hafal â datblygu perthynas waith dda.
Dyma egwyddorion allweddol cydlynu effeithiol:
_________________________________________
³ Cewch fanylion yngln â
sut mae cael copïau o God Ymarfer PAPC yn Atodiad D.
Wrth gymhwyso’r egwyddorion hyn dylai pob parti sylweddoli’r angen am hyblygrwydd yn eu gwaith.
Detholiad o ’Wneud i Waith Stryd Weithio’ – Partneriaeth Canol Llundain, sy’n disgrifio ‘paru llwybrau’ ar gyfer llwybrau cynlluniedig er mwyn gwarchod rhag trafferth ac anghyfleustra diangen.
"Dyma egwyddorion y Canllawiau Gwirfoddol sydd i’w mabwysiadu:
3. Mae’r prif lwybrau wedi eu dethol mewn parau lle bo hynny’n bosib (gogledd-de;
dwyrain-gorllewin) i’w defnyddio, os yn bosib, pryd bynnag y bo gwaith mawr yn yr
arfaeth.
4. Yr amcan fydd ceisio cadw un o’r llwybrau neillog mewn unrhyw bâr yn glir o waith mawr yn ystod unrhyw gyfnod o chwe mis (neu’n hirach os yn bosib) a gwarchod rhag gwneud gwaith mawr ar yr un pryd ar "lwybrau sydd wedi eu paru".
Dyma enghreifftiau o’r canllawiau ymarfer gorau ar gyfer cydlynu effeithiol:
Rhybuddion Gwaith
Caiff rhybuddion eu cynhyrchu gan ymgymerydd er mwyn rhoi rhybudd ymlaen llaw i awdurdod y strydoedd o rai mathau o waith (DFfNGS, adran 54) a rhybudd o ddyddiad dechrau’r gwaith (DFfNGS, adran 55). Bydd rhybuddion hefyd yn hwyluso cadw cofnod o oes pob gwaith ac arolygu’r gwaith hwnnw. Yn yr un modd, dylai awdurdodau’r priffyrdd hysbysu ymgymerwyr am yr isod:
Dyma’r pwyntiau allweddol i’w cofio ar gyfer llunio rhybuddion:
darparu manylion cywir cyfredol am leoliadau safleoedd;
_______________________________
4 Ceir manylion yngln â chael copïau o God Ymarfer Gwirfoddol Dinas Llundain yn Atodiad D.
5 Ceir manylion yngln â sut mae cael copïau o ganllawiau Partneriaeth Canol Llundain yn Atodiad D.
6 Ceir manylion yngln â sut mae cael copïau o Gynllun Contractwyr Ystyrlon Gwaith Stryd Cod
Ymarfer Cyngor Dinas Birmingham yn Atodiad D.
CYNLLUNIO, YMGYNGHORI A CHYDLYNU GWAITH
Camau Rhagarweiniol
Bwriad y camau rhagarweiniol hyn yw gwella’r modd y caiff gwaith ei gynllunio a’i ddylunio:
Ymgynghori
Dylid ymgynghori lle bo hynny’n ymarferol i asesu effaith y gwaith arfaethedig, helpu’r broses ddylunio ac annog gwell cydlynu rhwng ymgymerwyr, awdurdodau’r priffyrdd a phartïon perthnasol eraill. Dyma rai enghreifftiau:
Cydlynu’r Gwaith
Mae Cod Ymarfer PAPC yn rhoi canllawiau ymarferol i’r isod:
(i) awdurdod y strydoedd yngln ag ymarfer eu pwerau i roi cyfarwyddiadau yngln ag amserau gwaith stryd (DFfNGS, adran 56);
(ii) awdurdodau’r strydoedd ac ymgymerwyr yngln â chyflawni eu dyletswyddau o ran cydlynu a chydweithredu (DFfNGS, adrannau 59 a 60); a
Wrth gyflawni’r dyletswyddau hyn bydd y pwyntiau isod yn bwysig:
Mae enghreifftiau eraill o ffyrdd effeithiol o wella cydlynu a lleihau anghyfleustra i’w cael yn Atodiad A.
Effaith y Gwaith
Yn dilyn yr adolygu, yr ymgynghori a’r cydlynu rhagarweiniol, gallai’r ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd lunio datganiad ar y cyd i esbonio’r effeithiau posib ar y gymuned yn lleoliad y gwaith arfaethedig (gweler Gweithio ar y Safle hefyd).
Wrth lunio’r datganiad, dylid asesu’r posibilrwydd y gallai’r gwaith greu perygl, aflonyddwch a gwrthdaro.
GWEITHIO AR Y SAFLE
Gwybodaeth Ymlaen Llaw
Dylai’r ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd roi’r wybodaeth ganlynol i’r cyhoedd ymlaen llaw ynghyd â manylion am unrhyw waith mawr arfaethedig:
Mae cyfrifoldeb ar yr ymgymerwyr neu awdurdodau’r priffyrdd i gyfathrebu’n briodol gyda phreswylwyr, busnesau a theithwyr a allai gael eu heffeithio. Yn arbennig felly, dylid:
Nodi’r Gwaith ar y Safle
Wrth gynllunio ac wrth wneud y gwaith beunyddiol ar y safle, dylai ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd roi sylw neilltuol i’r canlynol:
Diogelu ac Amddiffyn y Gwaith
Bydd y Cod Ymarfer Diogelwch mewn Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd8 yn help i ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd a’u contractwyr arwyddo, goleuo ac amddiffyn pob gwaith ar y briffordd yn ddiogel.
Wrth wneud y gwaith beunyddiol ar y safle, dylid rhoi sylw neilltuol i’r canlynol:
Cwrteisi ac Ystyriaeth o’r Cyhoedd
Wrth wneud y gwaith beunyddiol ar y safle, dylai ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd a’u contractwyr:
___________________________
7 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o’r Llawlyfr Signalau Traffig yn Atodiad D.
8 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o’r Llawlyfr Signalau Traffig yn Atodiad D.
Amddiffyn yr Amgylchedd
Mae dyletswydd ar ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd i amddiffyn yr amgylchedd. Dyma rai enghreifftiau o’r ymarfer gorau:
Ceir gwybodaeth benodol yngln â thyllu agoriadau ac adfer agoriadau yng nghyffiniau coed yng Nghyhoeddiad 10 yr NJUG. 9 Eglurir dulliau o wneud gwaith ar y briffordd yn agos i goed yn Llwybrau a Gwreiddiau: Canllawiau yngln â Gwaith ar y Briffordd a Choed. 10
SAFON Y GWAITH ADFER AC ATGYWEIRIADAU’R PRIFFYRDD
Gall safon y gwaith adfer ac atgyweiriadau’r priffyrdd gael effaith uniongyrchol ar oes isadeiledd y briffordd. Dylai’r deunyddiau a ddefnyddir, y crefftwaith a’r dulliau a ddefnyddir i wneud y gwaith cloddio a’r gwaith adfer fod o’r safonau gofynnol a geir yn y DFfNGS "Manylion ar gyfer adfer agoriadau yn y briffordd – Cod Ymarfer"11 er mwyn cynnal strwythur ac integriti’r briffordd. Yn achos gwaith ar y priffyrdd, bydd y Fanyleb ar gyfer Gwaith ar y Priffyrdd a Pholisi’r Awdurdod Priffyrdd ei hunan yn gymwys.
Dylid sicrhau bod unrhyw waith adfer a gwaith ar y briffordd yn cael ei wneud o safon dda barhaol ar y tro cyntaf er mwyn cadw’r briffordd yn y cyflwr gorau posib a chreu cyn lleied ag sy’n bosib o drafferth ac anghyfleustra i’r cyhoedd wrth iddynt deithio. Dylid cydymffurfio â’r safonau perfformiad penodedig a roddir yn y manylebion cenedlaethol neu unrhyw amrywiadau lleol a gytunwyd. Ceir rhagor o fanylion pwysig yngln â sut mae sicrhau gwaith adfer o safon yn Atodiad B.
MONITRO PERFFORMIAD AC ARCHWILIO ANSAWDD
Disgwylir y bydd pob parti sy’n gweithio ar y briffordd at y diben o gloddio, adfer ac atgyweirio yn gweithredu System Sicrhau Ansawdd. Mae’r Systemau SA hyn yn rhoi sicrwydd i’r cwsmeriaid a’r cyhoedd y caiff y gwaith ei wneud mewn modd diffiniedig a wnaiff esgor ar ganlyniadau safonol.
Er mwyn ategu’r systemau SA, dylid cynnal profion ar berfformiad y contractwyr hefyd yn rheolaidd ar hap. Ceir enghraifft o gynllun o’r fath yn ‘Cod Ymarfer - Cynllun Contractwyr Ystyrlon Gwaith Stryd Cyngor Dinas Birmingham’ (gweler Atodiad C). Yn y cynllun caiff
____________________________
9 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o Gyhoeddiad 10 yr NJUG yn Atodiad D.
10 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o Gwreiddiau a llwybrau: Canllawiau ar Waith
Priffyrdd a Choed yn Atodiad D.
11 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o Fanyleb DFfNGS yn Atodiad D.
12 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o’r
fanyleb ar gyfer Gwaith ar y Priffyrdd yn Atodiad D.
perfformiad o safon uchel ei nodi ac os nad yw’r arferion yn cyflawni’r safonau penodedig, cymerir camau priodol i’w gwella.
Ar y cyd â chanlyniadau chwarterol y drefn arolygu (gweler Cod Ymarfer Arolygon PAPC¹³), byddai archwiliad safonol yn pennu’r tueddiadau a rhoi cymhelliant i’r holl ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd i wella eu harferion yn barhaus. Mae hyn yn unol â’r ddeddfwriaeth Gwerth Gorau, sy’n annog awdurdodau’r priffyrdd i fabwysiadu’r un dangosyddion perfformiad a’i gwneud hi’n bosib meincnodi eu gwaith. Argymhellir y dylid rhannu canlyniadau pob archwiliad gyda’r partïon oll.
Y CAMAU NESAF
Rydym yn cymeradwyo’r ddogfen ganllaw ar Ymarfer Gorau fel enghraifft o sut y gall yr holl bartïon sy’n ymwneud â gwaith stryd a gwaith ar y priffyrdd gydweithio i leihau trafferth ac anghyfleustra a chadw’r priffyrdd mewn cyflwr da.
Yn olaf, gwahoddir chi i ddod yn rhan o’r ‘ddogfen fyw’ yma trwy gyflwyno rhagor o enghreifftiau o ymarfer gorau i Bwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru (PAPC). Caiff yr enghreifftiau hyn eu hadolygu mewn fersiynau o’r Canllawiau Ymarfer Gorau yn y dyfodol.
__________________________
13 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o’r Cod Ymarfer Arolygu yn Atodiad D.
GEIRFA
Awdurdod y Priffyrdd Yng Nghymru a Lloegr mae hyn yn golygu
Gwaith Mawr
ar y Briffordd Gwaith sydd wedi ei nodi’n benodol yn rhaglen waith
flynyddol yr ymgymerwyr neu awdurdod y priffyrdd, neu a fyddai fel arfer yn cael ei gynllunio i ddechrau o leiaf 6 mis ymlaen llaw.
Stryd Yng Nghymru a Lloegr, mae stryd yn golygu y cyfan neu ran o unrhyw un o’r canlynol, ni waeth a yw’n ffordd drwodd ai peidio:
(a) unrhyw briffordd, ffordd, lôn, troedffordd, ali neu
dramwyfa;
(b) unrhyw sgwâr neu gwrt; a
(c) unrhyw dir sydd wedi ei osod fel ffordd p’un ai a
yw ar ffurf ffordd ar y foment ai peidio.
Awdurdod y Strydoedd o ran y strydoedd mae hyn yn golygu awdurdod y priffyrdd yn achos y priffyrdd cynaledig, neu os nad yw’r stryd yn briffordd cynaledig mae’n golygu rheolwyr y stryd.
Trwydded Gwaith Stryd Yng Nghymru a Lloegr mae hyn yn golygu trwydded gan awdurdod y strydoedd i rywun i wneud gwaith stryd.
Ymgymerydd Mae hyn yn golygu’r sawl y breiniwyd ynddo’r hawl statudol i wneud gwaith stryd, neu’r trwyddedai dan y drwydded gwaith stryd berthnasol.
ATODIAD A
Enghreifftiau o dechnegau i wella cydlynu a lleihau anghyfleustra a thrafferth
Gwaith Ymgymerwyr a Gwaith ar y Briffordd
(i) Rhannu ffosydd
Gall rhannu ffosydd fod yn ffordd dda o leihau’r drafferth a all godi yn sgil gwaith stryd. O rannu ffosydd, dylid cynnwys:
Cyngor gan Gyngor Dinas Nottingham yngln â rhannu ffosydd:
"Mae mwy i gydlynu na cheisio didoli a threfnu’r gwaith fel na fydd un gweithgaredd yn amharu ar y llall. Mewn llawer o leoliadau dylai gweithgareddau gael eu clystyru ynghyd â’u cyflawni fel gwaith cydlynol llawer mwy fel sy’n arferol o ran cynnal a chadw’r priffyrdd ar y prif lwybrau.
Dylid achub ar bob cyfle i nodi’r adegau pan fo’n briodol rhannu gofod y ffyrdd. Gall hyn olygu rhannu ffosydd neu gyfuno gwahanol weithgareddau’n un safle neu safleoedd cydlynol. Er enghraifft, darparu gwasanaethau newydd i safleoedd datblygu lle y gall fod mai un contractwr sy’n gosod gwasanaethau ar gyfer nifer o wahanol gyfleustodau mewn un ffos neu waith mwy o faint lle gosodir rhwydweithiau newydd ar gyfer gweithredwyr gwahanol gan un cyfleustod.
Dylid ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng lleihau’r adegau pan fo rhaid gwneud mân waith a chynyddu maint y gwaith cyfun. Gall y trafferthion cyffredinol gynyddu o gyfuno’r gwaith gan y gallai gwaith gosod mawr olygu symud y gwaith o ymyl y ffordd / pafin i’r lôn gerbyd ac efallai y byddai’n rhaid ymestyn amser y gwaith i mewn i gyfnodau brig y traffig yn hytrach na’i wneud ar adegau tawelach yn unig."
(ii) Cloddio arbrofol
Dylai ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd wneud tyllau arbrofol, lle bo’n briodol, er mwyn nodi problemau posib cyn i’r gwaith ddechrau. Dylid rhannu’r wybodaeth hon gydag ymgymerwyr eraill ac awdurdodau’r priffyrdd lle bo hynny’n bosib. Dylid arfer y gofal a’r sylw priodol wrth gloddio a chynnal a chadw gwasanaeth yn agos i adeileddau’r briffordd (Canllaw PAPC Cymru – Canllawiau ar gyfer Cynllunio, Gosod a Chynnal a Chadw Gwasanaethau’r Cyfleustodau yn Agos i Adeileddau’r Briffordd ac Adeileddau Peirianyddol Eraill.)
(iii) Darganfod cyfarpar
Wrth i ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd wneud defnydd cynyddol ar fapiau digidol, bydd cyfle i gyfnewid ffeiliau gwybodaeth trwy gyfrwng y Rhyngrwyd. Dylai hyn hwyluso pethau o ran darparu gwybodaeth gyfredol a gwella pethau o ran diogelwch a gwarchod rhag difrod.
Dylid rhoi sylw priodol i’r cyngor sydd yn y Canllawiau Iechyd a Diogelwch (HSG47)14 wrth geisio darganfod lleoliad cyfarpar tanddaearol a faint o le sydd dan y ddaear. Ymhlith y dulliau darganfod mae’r isod:
Dyma dechneg a all fod o gymorth i ymgymerwyr ac awdurdodau’r priffyrdd o ran darganfod cyfarpar a lleihau trafferthion, trwy weithio mewn modd mwy effeithiol gan achosi llai o ddamweiniau a difrod:
(iv) Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS)
O wneud rhagor o ddefnydd o Gyfeirnodau Grid yr Arolwg Ordnans (CGAO) (Rhestr Strydoedd Genedlaethol Lefel 3 – BS7666: Rhan 3)15 dylid gwella cywirdeb yr wybodaeth sydd mewn rhybuddion gwaith. Ar y cyd â’r Systemau Lleoli Cyffredinol (GPS) dylai fod yn bosib bod yn fwy union o ran darganfod cyfarpar.
(v) Cofnodion Ffotograffig
Byddai cofnod ffotograffig (byddai’n dda petai’r dyddiad wedi ei stampio arno) neu fideo o gyflwr y safle yn ddefnyddiol cyn cychwyn ar y gwaith, ac yn ystod y gwaith ac mewn lleoliadau lle mae angen gwneud arolygon. Byddai’n gymorth i’r systemau gwaith.
(vi) Technoleg heb ffosydd
Mae gosod cyfarpar tan y ddaear heb agor ffosydd yn ddull y gellir ei ddefnyddio yn lle cloddio. Dylid cofio’r pwyntiau canlynol:
(vii) Technegau tyllau mân
Oherwydd y datblygiadau diweddar yn y dechnoleg mae defnydd cynyddol ar dechnegau newydd megis defnyddio tyllau mân wrth weithio ar y briffordd. Mae hyn yn golygu llai o waith cloddio, a llai o drafferth ar y safle o’r herwydd.
__________________________________
14 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o’r Canllawiau HSG47 yn Atodiad D.
15 Cewch fanylion yngln â sut mae cael copïau o BS7666: Rhan 3 yn Atodiad D.
ATODIAD B
Safon Gwaith Adfer ac Atgyweirio ar y Briffordd
Yn unol ag adran 71 o DdFfNGS, pan fydd ymgymerwyr yn adfer stryd, mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r manylebion priodol ar gyfer y deunyddiau a ddefnyddir er mwyn sicrhau y cedwir at y safonau crefftwaith gofynnol. Wrth wneud gwaith cynnal a chadw ar y briffordd dylai awdurdodau sicrhau hefyd y caiff eu gwaith ei wneud i safon uchel.
Dyma’r prif amcanion:
Mae modd cyflawni hyn fel a ganlyn:
Dyma’r manteision o adfer ac atgyweirio’r briffordd ar y tro cyntaf:
ATODIAD C
Cynlluniau Contractwyr Ystyriol
Mae nifer o awdurdodau’r priffyrdd ac ymgymerwyr wedi datblygu Cynlluniau Contractwyr Ystyriol, sy’n dangos parodrwydd i gydweithio er budd y cyhoedd. Isod nodir enghreifftiau o beth ellid ei wneud i hysbysu’r cyhoedd am waith cyn iddynt ddechrau.
Cwynion a Bodlonrwydd y Cyhoedd
Bodlonrwydd y cyhoedd yw ‘conglfaen’ Gwerth Gorau ac felly dylai’r ymgymerydd neu awdurdod y priffyrdd ddelio ag unrhyw gwynion uniongyrchol a geir gan y cyhoedd mewn modd prydlon a chwrtais.
Gellid mesur bodlonrwydd y cyhoedd mewn gwahanol ffyrdd, e.e. polau piniwn, cyfweliadau ffôn, dadansoddi canmoliaeth a chwynion neu drwy archwilio er mwyn archwilio perfformiad pan fydd y gwaith yn cael ei wneud.
Yn ystod y gwaith ac ar ôl ei gwblhau (yn enwedig gwaith mawr neu drafferthus) dylai ymgymerwyr ystyried cyfathrebu rhagor gyda’r partion perthnasol oll er mwyn asesu i weld pa mor dda yw’r gwaith neu a oedd y gwaith a pha mor dda oedd ymddygiad y contractwyr ar y safle.
Monitro ac Asesu Perfformiad
Pwrpas monitro perfformiad yw nodi lle gellid gwneud gwelliannau, annog gwelliant parhaus, annog pobl i weithio mewn partneriaeth a darparu data ar gyfer archwilio ansawdd. Gweler hefyd y paragraffau blaenorol yngln â gwaith adfer ac atgyweirio safonol yn yr adran am fonitro ac archwilio ansawdd.
Nid yw’r archwiliadau a’r monitro ar berfformiad yn disodli’r drefn arolygu arferol o gwbl sydd ohoni dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd.
Gellid gwneud asesiadau rheolaidd er mwyn cymeradwyo contractwyr y mae eu perfformiad yn gyson foddhaol, annog contractwyr y bu eu perfformiad yn anfoddhaol i wella ac argymell camau priodol yn erbyn contractwyr na fyddant byth yn cyrraedd y safonau a geir yn y DdFfNGS a’r Codau Ymarfer perthnasol sydd ynddi.
ATODIAD D
Rhestr Cyhoeddiadau
Mae’r cyhoeddiadau y cyfeirir atynt yn y Canllawiau Ymarfer Gorau hyn ar gael gan:
(1) Deddf y Priffyrdd 1980. Llundain, HMSO, 1980.
(ISBN 0105466808)
(2) Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Llundain, HMSO, 1991.
(ISBN 0105422916)
(3) Yr Adran Gludiant, Swyddfa Gymreig, Swyddfa’r Alban a Phwyllgor y Priffyrdd a’r Cyfleustodau, Cod Ymarfer ar gyfer cydlynu gwaith stryd a gwaith at ddibenion y ffyrdd a materion cysylltiedig. Llundain, HMSO, 1993.
(ISBN 0115511628)
(4) Cod ymarfer gwirfoddol ar gyfer cydlynu gwaith stryd yn Ninas Llundain. (Adran 5 o’r Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991). Rhifyn 1. Llundain, Corfforaeth Llundain, 1999 Hyd.
(Ysgrifennwch at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Technegol Dinas Llundain, Blwch 270, Guildhall, Llundain EC2P 2ES)
(5) Gwneud i waith stryd weithio: Canllawiau Gwirfoddol Partneriaeth Canol Llundain, Partneriaeth Canol Llundain, 2000 Mehefin.
(Ar gael ar y rhyngrwyd ar www.c-london.co.uk/projects/pro streetworks.asp
neu gan CLP yn 1 Hobhouse Court, Suffolk St, Llundain SW1 4HH)
(6) Cynllun gwaith stryd contractwyr ystyriol. Cod ymarfer. Cyngor Dinas Birmingham, 1999.
(Ar gael gan yr Adran Gludiant yn BCC, Council House, Birmingham, B1 1BB neu ffoniwch 0121 303 7411.
(7) Adran Gludiant et al. Llawlyfr Arwyddion Traffig. Pennod 8: Mesurau diogelu traffig ac arwyddion ar gyfer gwaith ffordd a sefyllfaoedd dros-dro. Llundain, HMSO, 1991.
(ISBN 0115509372)
(8) Adran Gludiant et al. Diogelwch mewn gwaith stryd a gwaith ffordd: Cod Ymarfer. Llundain, HMSO, 1992.
(ISBN 011551144X)
(9) Canllawiau ar gyfer cynllunio, gosod a chynnal a chadw gwasanaethau cyfleustodau yn agos i goed. (Cyhoeddiad rhif 10 yr NJUG) Llundain, Cyd-Grwp Cenedlaethol Cyfleustodau, 1995.
(Ar gael am £5, sieciau’n daladwy i "EASL" gan Swyddfa NJUG, 30 Millbank, Llundain SW1 4RD.
(10) Gwreiddiau a llwybrau: Canllawiau yngln â gwaith ar y priffyrdd a choed. Llundain, Adran yr Amgylchedd, Cludiant a’r Rhanbarthau, 1999.
(Ar gael ar y rhyngrwyd ar www.wildlifecountryside.detr.gov.uk/consult/roots/03.htm)
(11) Manylebion ar gyfer adfer agoriadau ar y briffordd. Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Cod ymarfer. Llundain, HMSO, 1992.
(12) Llawlyfr dogfennau contract ar gyfer gwaith ar y priffyrdd. Cyfrol 1: Manylebion ar gyfer gwaith ar y briffordd. Llundain, Stationery Office, 1998.
(ISBN 0115519793)
(13) Yr Adran Gludiant, Swyddfa Gymreig, Swyddfa’r Alban a Phwyllgor y Priffyrdd a’r Cyfleustodau, Cod Ymarfer ar gyfer Arolygon, Llundain, HMSO, 1992.
(ISBN 0115511482)
(14) Gwarchod rhag perygl o wasanaethau tanddaear. HSG 47. Sudbury, HSE Books, 2000.
(ISBN 0717617440)
(pris £7.50 gan HSE Books, Blwch Post 1999, Sudbury, Suffolk, Ffôn 01787 881165)
(15) Manylebion ar gyfer cyfeiriadau. BS 7666. Rhan 3. Llundain, Sefydliad Safonau Prydain, 1994.
(ISBN 0580231895)
(archebwch oddi wrth www.bs-global.com neu gysylltu â BSI yn Chiswick High Road, Llundain W4 4AL, Ffôn 0208 996 7000)
(16) Mae Canllaw PAPC Cymru "Arferion Gorau mewn Gwaith Stryd a Gwaith ar y Briffordd" ar gael ar y rhyngrwyd ar www.welsh-hauc.org.uk
Gallwch archebu dogfennau gan y Stationery Office (HMSO) (cyf. 1-3, 7, 8, 11, 12, 13) o www.ukstate.com o lyfrfeydd y Stationery Office e.e. Llundain yn 123 Kingsway, Llundain WC2B 6PQ, Ffôn 020 7242 6393 Ffacs 020 7242 6394, neu unrhyw siop lyfrau dda.
Mae’r ISBN yn help wrth archebu.
Cliciwch yma i brintio'r ddogfen gyfan - Fformat MS Word Cliciwch yma i brintio'r ddogfan gyfan - Fformat Adobe Acrobat