Ynglyn â'r PAPCC

Mae Pwyllgor Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau Cymru, PAPCC, yn un o blith tri ar ddeg o Bwyllgorau Awdurdodau Priffyrdd a Chyfleustodau rhanbarthol (PAPC)

 

Crewyd y PAPCau rhanbarthol hyn ar ôl cyflwyno 'Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991' yn fforwm ar gyfer Awdurdodau`r Priffyrdd ac Ymgymerwyr Statudol (Nwy, Trydan, Dwr, Carthffosiaeth, BT, Cable & Wireless (Mercury) a Chymdeithas Cysylltiadau Ceblau) fel man trafod ar gyfer materion sy`n berthnasol yn rhanbarthol a:

Cyflwyno adroddiadau i'r PAPC Cenedlaethol drwy gyfarfodydd Cynrychiolwyr Rhanbarthol y PAPC

Gweithredu fel ffocws rhanbarthol ar gyfer y PAPC Cenedlaethol.

Gweithredu fel fforwm ymgynghorol os bydd anghydfod lleol a chynorthwyo i weithredu trefniadau cymodi a chyflafareddu

Monitro perfformiad y Cyfleustodau ac Awdurdodau`r Priffyrdd yn unol â Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991

Cyfeirio cynlluniau lleol i`r PAPC ar gyfer argymell eu mabwysiadu`n genedlaethol

Hybu arferion gwaith da sydd o fantais i bawb yng ngoleuni polisiau`r PAPC a`r ddeddfwriaeth gyfredol

Delio â chylchoedd gorchwyl penodol y PAPC mewn da bryd a chyflwyno adroddiadau i`r PAPC am y rhain

Dyma`r deuddeg PAPC rhanbarthol eraill:

 

 Anglian

 Gogledd Lloegr

 De Orllewin

 

 

 

 Llundain

 Gogledd Orllewin

 Gorllewin Swydd Efrog

 

 

 

 Dwyrain Canoldir Lloegr

 Yr Alban

 Dwyrain a Gogledd Swydd Efrog

 

 

 

 Gorllewin Canoldir Lloegr

 De Ddwyrain

 De Swydd Efrog


Mae Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 wedi rhoi pwyslais newydd ar gydlynu pob gwaith, o ran gwaith atgyweirio ar y priffyrdd a'r gwaith cysylltiedig, er mwyn achosi cyn lleied ag sy`n bosib o anghyfleustra i`r rhai sy`n defnyddio`r priffyrdd.

Mae`n hanfodol bod aelodau PAPCC yn siarad gyda`u gilydd. Bydd y cynrychiolwyr yn cwrdd bedair gwaith y flwyddyn i drafod materion a llunio arferion gwaith cytun. Yn ogystal mae nifer o weithgorau`n cefnogi`r grwp drwy edrych ar faterion penodol.

Mae PAPC Cymru wedi datblygu`r safle hwn i ategu`r trefniadau sydd eisoes ar waith ar gyfer cyd-gysylltu o fewn y grwp.